Cwestiynau
- A yw ceiropracteg i mi?
-
Os ydych yn ansicr y gall Ceiropracteg eich helpu, mae archwiliadau am ddim ar gael. Mae'n rhoi cyfle i'r Ceiropractydd eich archwilio tra eich bod chi'n cael cyfle i brofi ef a'r clinig. Bydd y Ceiropractydd yn dweud wrthoch pa fath o broblem sydd ganddoch a pha fath o driniaeth i'w ddisgwyl. Nid diagnosis ffurfiol yw hyn ond barn broffesiynol. Cewch benderfynu wedyn os a sut ydych am barhau.
- Oes yna unrhyw sgil-effeithiau?
-
Weithiau mae yna wayw am 2 neu 3 diwrnod ar ôl triniaeth. Gellir lleihau hyn dryw roi bag o rew neu bys wedi eu rhewi mewn lliain sychu llestri a'i osod dros yr ardal gafodd ei drin. Os nad yw'r boen wedi gwella mewn 2 neu 3 diwrnod, ffoniwch y clinig.
- Ydi ceiropracteg yn ddiogel?
-
Mae llawer llai o risgiau gyda Ceiropracteg na gyda nifer o driniaethau eraill i'ch cyflwr. Mae sgil effeithiau difrifol yn hynod o anarferol. Mewn achosion prin iawn mae trin y gwddw wedi cael ei gysylltu gyda strôc, ond fe ddengys ymchwil bod Ceiropracteg yn un o'r triniaethau mwyaf diogel ac effeithiol ar gael.
- Beth yw'r gwahaniaeth rhwng ceiropracteg ac osteopathi?
-
Mae nhw 90% yr un fath. Mae Ceiropractyddion fel arfer yn gweld pobl yn fwy aml ar ddechrau cwrs o driniaeth. Mae llawer o driniaethau Ceiropracteg ac Osteopathi yr un fath.
Lle mae 'na wahaniaeth, dywedir fod Ceiropracteg yn fwy 'cadarnhaol'.
- Hyfforddiant Ceiropracteg
-
Sefydlwyd Coleg Eingl-Ewropeaidd Ceiropracteg ym 1963. I ddechrau roedd yn cynnig diploma mewn Ceiropracteg ac ers 1992 mae'n cynnig graddau sy'n cael eu cydnabod drwy'r byd.
Mae'r cwrs nid yn unig yn cynnwys sut i adnabod a thrin problemau yn yr asgwrn cefn ond hefyd meddygaeth cyffredinol (anatomeg, ffisioleg a phatholeg). Mae'n bwysig bod Ceiropractyddion yn gallu adnabod anhwylderau meddygol nad ydynt yn gymwys i'w trin, ac yn gallu disgrifio'r broblem i feddygon teulu ac arbennigwyr mewn ffurf sy'n ddealladwy iddynt. Mae datblygu parhaus proffesiynol yn orfodol. Mae hyn yn cynnwys cyhadleddau, seminarau, rhaglenni astudio ac ymchwil. Mae'n bwysig i Geiropractyddion gadw i fyny efo'r datblygiadau diweddaraf.