Y Clinig Ceiropracteg, Bangor

Dyma'r tîm

Steve Mack-Smith
Steve Mack-Smith
y Ceiropractydd mwyaf profiadol
yng Ngwynedd

Graddiodd Steve Mack-Smith o Goleg Ceiropracteg Eingl-Ewropeaidd Bournemouth ym 1990. Yn dilyn blwyddyn ôl-radd ger Norwich, agorodd y clinig ym Mangor ym 1992.

Ymunodd â'r Gymdeithas Ceiropracteg Brydeinig ar ôl graddio er mwyn parhau efo'i astudiaethau ôl-radd. Fe ymunodd hefyd â'r Undeb Ceiropracteg Ewropeaidd. Ym 1994, pasiwyd y Ddeddf Ceiropracteg a sefydlwyd y Cyngor Ceiropracteg Cyffredinol er mwyn arolygu'r proffesiwn ac i sicrhau bod safonau'n cael eu cynnal a buddiannau cleifion eu gwarchod. Mae bod yn aelod o'r CCC yn orfodol i bob ceiropractydd. Yn ddiweddarach sefydlwyd Coleg y Ceiropractyddion, er mwyn trefnu Datblygiad Proffesiynol Parhaus ac er mwyn gwneud gwaith ymchwil ac hefyd yr Academi Ceiropracteg Ewropeaidd. Mae Steve yn aelod o bob un o'r cyrff yma, yn ogystal â bod yn aelod broffesiynol o'r elusen Backcare.

Diddordeb pennaf Steve ydi hyrwyddo'r proffesiwn trwy gyfrwng yr iaith Gymraeg, ac annog mwy o siaradwyr Cymraeg i hyfforddi fel ceiropractyddion. Deng mlynedd yn ôl sefydlwyd cwrs ym Mhrifysgol Morgannwg. Er bod Ceiropractyddion yn trin yr asgwrn cefn gan amlaf, mae Steve yn arbenigo mewn trin esgyrn y breichiau a'r coesau.

Ers 1995 mae Steve wedi bod yn cynnal cwrs ar gyfer graddedigion Ceiropracteg yng Ngogledd Cymru a Gogledd Orllewin Lloegr.

Yn 2007 fe ddaeth yn aelod BCA o ARMA er mwyn hyrwyddo gwasanaethau cyhyr-ysgerbydol yng Ngwynedd. Rwan mae'n gadeirydd y Cydbwyllgor Ymgynghorol Gwasanaethau sy'n darparu goruchwyliaeth cleifion i wasanaethau cyhyrysgerbydol ledled Gogledd Cymru.

Mae Steve ar gael i roi sgyrsiau yn Gymraeg neu Saesneg i'r cyhoedd a gweithwyr proffesiynol.




Jin

Helo, fy enw i ydi Jin. Mi ges i fy ngeni ym Malaysia, a threulio llawer o’m magwraeth yng nghefn gwlad Adelaide. Roedd fy ngradd gyntaf mewn Geneteg, Microbioleg ac Imiwnoleg.

Mae Awstralia wedi dylanwadu’n fawr ar fy agwedd tuag at fywyd. A minnau wedi byw yn y wlad, dw i’n deall yr heriau unigryw sy’n dod gyda chael mynediad at ofal iechyd yn y cymunedau hyn. Mae fy nghefndir i’n helpu i mi uniaethu gyda chleifion o amgylcheddau tebyg, yn galluogi i mi ennill ymddiriaeth a chyfathrebu’n agored. Dw i o’r farn bod gofal sy’n ddiwylliannol sensitif yn hanfodol, ac rydw i’n ymgeisio at ddod â gwerthoedd a thraddodiadau cefn gwlad i’m ymarferiad gan gynnwys gofal iechyd cymunedol a holistaidd.

Penderfynais ddod yn Geiropractegydd ar ôl cael y profiad o driniaeth ceiropracteg fy hun ar gyfer anaf ar fy ffêr, a phenderfynu gwneud fy hyfforddiant yng Nghymru yn WIOC gan fod ganddo enw da am ddarparu un o’r cyfleon hyfforddi gorau yn y byd.

Graddais o Brifysgol De Cymru yn 2023/24. Gydag un flwyddyn (2024) o brofiad gwaith yn Glinigydd Myfyriwr Uwch yn y WIOC. Gan ymuno â Chlinig Ceiropracteg – un o glinigau ceiropracteg gwych yn ardal gogledd Cymru – dw i’n gobeithio ehangu ar fy ngwybodaeth mewn Paediatreg,Obstetreg a Gynaecolog.

Tu allan i’m gwaith, dw i’n mwynhau sesiynau coffi, heicio, coginio ac ymarfer corff yn y gampfa, sy’n fy helpu i i edrych ar bethau gyda chydbwysedd a phositifrwydd. Credaf bod diddordebau nid yn unig yn cyfoethogi fy mywyd ond hefyd yn ehangu fy ngallu i ymgysylltu gyda chleifion. Dw i’n ymroi’n llawn i ddarparu gofal unigol tosturiol, o safon uchel sydd wedi ei seilio ar dystiolaeth ac felly’n cefnogi fy nghleifion gyrraedd eu hamcanion iechyd.

Diolch i chi am adael i mi ddod yn rhan o’ch gofal. Dw i’n edrych ymlaen at gydweithio er mwyn gwella eich iechyd a llesiant, yn ogystal â diweddaru Steve am y meddylfryd Ceiropracteg ddiweddaraf.